Rhifyn Archif

Dinasyddiaeth, Bwrdd yr Iaith, a marchnata’r Gymraeg

Dr Diarmait Mac Giolla Chríost

Cyflwyniad

Cynigir, yn yr astudiaeth gryno hon o ymagwedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg (ByIG) tuag at farchnata’r iaith Gymraeg, fewnwelediad i’r ymdriniaeth ideolegol sydd wedi dylanwadu ar waith ByIG yn y blynyddoedd diwethaf. Gosodir yr astudiaeth yng nghyd-destun yr adolygiad arloesol gan Lywodraeth y Cynulliad o bolisi iaith Gymraeg a’r ddogfen bolisi allweddol a fu’n brif gynnyrch yr adolygiad unigryw hwnnw, sef Iaith Pawb. Adwaenir goblygiadau Iaith Pawb ar gyfer marchnata’r iaith Gymraeg. Trafodir y gwaith marchnata a gynhelir gan FyIG mewn perthynas â’i chynulleidfa – hynny yw, dinasyddion Cymru a chwsmeriaid gwasanaethau cyhoeddus trwy’r Gymraeg. Dadansoddir yr is-destun ideolegol sy’n nodweddu’r maes hwn o weithgarwch ByIG gan gyfeirio at y tyndra cysyniadol sydd yn ymhlyg wrth y gwaith a chan awgrymu goblygiadau hynny wrth i Lywodraeth y Cynulliad baratoi i gymhathu ByIG.

 

Y Cyd-destun

Ers y 1980au hwyr y mae’r iaith Gymraeg wedi treiddio i sefydliadau llywodraethiant a gwladwriaeth yng Nghymru, ac yn neilltuol ym meysydd addysg, gweinyddiaeth gyhoeddus, y system gyfreithiol a llywodraeth leol. O dan Ddeddf Diwygio Addysg (1988) mae’r iaith Gymraeg wedi’i chydnabod fel pwnc craidd ac felly yn bwnc gorfodol ar gyfer disgyblion (5-16 oed) yn holl ysgolion Cymru yn y sector statudol. Tan Ddeddf yr Iaith Gymraeg (1993) gosodwyd dyletswydd statudol ar sefydliadau yn y sector cyhoeddus i ymdrin â’r iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar sail cyfartaledd wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd. Hefyd dan y ddeddf hon sefydlwyd ByIG fel cwango, hynny yw fel asiantaeth y wladwriaeth yn gweithio mewn modd ‘hyd braich’ oddi wrth lywodraeth y dydd. Prif gyfrifoldebau ByIG oedd fel a ganlyn:

  • Hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r iaith Gymraeg
  • Cynghori a dylanwadu ar faterion a wnelo â’r iaith Gymraeg
  • Ysgogi a goruchwylio’r broses o baratoi a gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg
  • Dosbarthu grantiau ar gyfer hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r iaith Gymraeg
  • Cynnal gorolwg strategol o addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

O’i sefydlu, mae ByIG, ar y cyfan, wedi llunio polisi iaith Gymraeg, a hynny mewn cydweithrediad â’r Swyddfa Gymreig, sef swyddfa llywodraeth ganolog y DU yng Nghymru. Mae ByIG wedi dilyn yr amcanion isod:

  • Cynyddu’r niferoedd o siaradwyr Cymraeg
  • Darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer defnyddio’r iaith Gymraeg
  • Cryfhau’r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol
  • Newid ymddygiad ieithyddol ac annog mwy o siaradwyr Cymraeg i wneud mwy o ddefnydd o’r iaith (ByIG, 1996 a 2005).

Cafwyd cryn effaith ar bolisi iaith Gymraeg gan ddyfodiad llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a genedigaeth y corff etholedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru [CCC] ym 1999. Tan gytundeb llywodraeth ddatganoledig yn y DU symudwyd rhai o bwerau llywodraeth ganolog y DU, gan gynnwys rhai ym meysydd addysg a diwylliant, i’r llywodraeth a ffurfiwyd o’r CCC etholedig. Hefyd, gwnaethpwyd rhai o swyddogaethau’r Swyddfa Gymreig yn atebol i’r corff hwnnw yn hytrach nag i lywodraeth ganolog y DU. Un o weithrediadau cychwynnol pwysicaf Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru [LlCCC] oedd cynnal adolygiad cynhwysfawr o bolisi iaith Gymraeg. Cwblhawyd y gwaith hwn gan LlCCC yn 2002 a chafodd ffrwyth y gwaith ei gyhoeddi’n ddiweddarach mewn adroddiad yn dwyn y teitl Iaith Pawb (LlCCC, 2003). Gosodwyd nifer o dargedau pwysig yn y ddogfen hon:

  • Cynyddu, erbyn 2011, canran siaradwyr yr iaith Gymraeg 5 y cant o waelodlin Cyfrifiad 2001
  • Rhwystro dirywiad cymunedau traddodiadol Cymraeg eu hiaith, ac yn neilltuol y rheiny a chanddynt ganran o 70 y cant neu fwy o siaradwyr Cymraeg
  • Cynyddu canran y plant sy’n derbyn addysg gyn-ysgol cyfrwng Cymraeg
  • Cynyddu canran y teuluoedd lle mae’r Gymraeg yn brif iaith
  • Prif-ffrydio gwasanaethau cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys adrannau’r llywodraeth a’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad ond nid unrhyw gyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys holl gynghorau sir Cymru. Nid yw’n cynnwys unrhyw ymrwymiad o ran y sectorau preifat a gwirfoddol.

Trwy Iaith Pawb ymrwymodd LlCCC i ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys mabwysiadu’r iaith Gymraeg fel thema lorweddol yng ngwaith CCC a chryfhau ByIG. Erbyn 2005-06 tyfodd ByIG nes bod ganddo staff o 70 o unigolion a chyllideb o tua £13 miliwn y flwyddyn, gan ddyrannu dros £6.5 miliwn mewn grantiau. Yn ei grynswth, mae Iaith Pawb yn ymrwymiad i sicrhau prif-ffrydio’r iaith Gymraeg yng ngwahanol feysydd bywyd cyhoeddus. Er enghraifft, sefydlodd y llywodraeth y ‘Grŵp Trafod Iaith-Economi’ yn 2002 dan ysgrifenyddiaeth Menter a Busnes ac mae hyrwyddo’r Gymraeg ym maes datblygiad economaidd i’w wireddu trwy raglenni amrywiol, megis:

  • Cyllid Cymru ccc, y Gronfa Benthyciadau Cymunedol, a’r Sefydliad Datblygu Cymunedol Ariannol, sy’n ‘meithrin a chynnal agwedd fwy mentrus trwy roi nawdd a chefnogaeth busnes i amrywiaeth eang o unigolion, cwmnïau a mentrau cymunedol’ (LlCCC, 2003: 23)
  • Strategaeth Cymru o Blaid Arloesi, sydd ‘at bwrpas ymgynghori, yn ceisio hyrwyddo arloesedd, ymchwil a datblygiad, trosglwyddo technoleg a datblygu cynnyrch newydd’ (LlCCC, 2003; 23)
  • Potentia a Porth Busnes, sy’n ceisio ‘annog entrepreneuriaeth ymysg grwpiau nad oes cynrychiolaeth ddigonol ohonynt’, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg (LlCCC, 2003: 23) 
  •  Ffatri Fenter, blaengaredd sy’n ‘rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg ifanc flasu byd busnes eu hunain’ (LlCCC, 2003: 23) 
  • Cwlwm Busnes, gwefan sy’n darparu ‘cyfleuster rhwydweithio busnes rhithwir ar gyfer siaradwyr Cymraeg’ (LlCCC, 2003: 23).

Ond fel y mae Williams (2004) eisoes wedi nodi, mae gwendidau’n perthyn i Iaith Pawb. Fel datganiad polisi mae rhethreg Iaith Pawb yn portreadu gweledigaeth ac uchelgais ar gyfer gwireddu Cymru ddwyieithog (Cymraeg-Saesneg) ond ei wendid yw nad yw’n manylu ar yr union ddulliau gweithredu, nac yn adnabod maint a ffynonellau’r adnoddau angenrheidiol, na’r ffyrdd o fonitro effeithiolrwydd gweithgarwch yn y maes.

Marchnata

Yn ei ddadansoddiad o Iaith Pawb mae Williams (2004) hefyd yn nodi y dylai polisi iaith effeithiol ddylanwadu ar ymddygiad ieithyddol ar draws yr ystod gyflawn o gyd-destunau sosio-economaidd. Mae marchnata’r potensial yn bwysig iawn yn hyn o beth. Ystyriai ByIG ei strategaeth farchnata, a fabwysiadwyd yn dilyn Iaith Pawb, fel arf pwysig wrth newid ymddygiad ac agweddau ieithyddol (ByIG, 2004a). Er enghraifft, mae ByIG yn datgan y canlynol yn y strategaeth honno: ‘Mae angen creu ymwybyddiaeth, hawlio sylw parhaus, ac yn bwysicach oll, mae angen sbarduno’r gynulleidfa i weithredu’ (ByIG, 2004a: 15.4). Mae hyn yn codi dau gwestiwn: Pwy yw’r gynulleidfa, a sut mae ysgogi gweithgarwch?

Ymddengys i’r cysyniad o’r cwsmer neu’r defnyddiwr fod yn ganolog i’r atebion i’r ddau gwestiwn allweddol hyn. Er enghraifft, man cychwyn (a man gorffen) y strategaeth farchnata yw’r dyfyniad canlynol gan Peter Drucker, gwrw rheolaeth busnes ac ysgolhaig yn y Claremont Graduate University yng Nghaliffornia, UDA:

Marketing is so basic that it cannot be considered a separate function. It is the whole business seen from the point of view of its final result, that is, from the customer’s point of view [myfi biau’r pwyslais].

Mae cyfeiriadau pellach at y cwsmer neu’r defnyddiwr mewn mannau eraill yn y testun (er enghraifft yn y Cyflwyniad 1.1, 4.2.5, 14.6). Ar un pwynt mae’r strategaeth yn datgan y bydd delwedd gyhoeddus ByIG, a hithau’r Gymraeg o safbwynt bywyd cyhoeddus, yn cael eu pensaernïo ar sail y berthynas rhwng y Gymraeg a’r cwsmer: ‘Yn y pen-draw, bydd y brand yn cael ei adeiladu gan staff y Bwrdd, yr aelodau a phrif bartneriaid sy’n trosglwyddo profiad positif i’r cwsmer’ (ByIG, 2004a: 4.2.4). Mewn rhan arall o’r strategaeth honnir bod marchnata yn ganolog i’r gwaith o wireddu amcanion ByIG a hynny y tu hwnt i faterion a wnelo â’r ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r Gymraeg. Eto, mae’r berthynas rhwng yr iaith a’r cwsmer yn allweddol i hynny:

Mae llwyddiant Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cyflawni targedau Iaith Pawb yn dibynnu ar allu’r Bwrdd i adnabod ei gwsmeriaid yn well, gan gyfleu negeseuon pendant fydd yn cwrdd â’i anghenion yn fwy effeithiol. Mae adeiladu perthynas hir dymor a buddiol gyda’r cwsmer yn greiddiol i’r strategaeth farchnata. (ByIG, 2004a: Adran 16)

Mewn cyfweliad â’r ymchwilydd eglurwyd hyn ymhellach gan swyddog o FyIG. Cynigiodd fod marchnata sy’n ymwneud â ‘chael, cadw a thyfu cwsmeriaid … dod o hyd i ffyrdd o greu gwerth i’r cwsmer … dyw e/hi ddim am werthu ond am adeiladu cysylltiadau â chwsmeriaid’. Mae’r ymagwedd hon yn amlwg yn arferion marchnata ByIG. Mae’r deunydd sy’n gysylltiedig â ‘Phecyn Croeso [Welcome Pack] Symud i Gymru [Moving to Wales]’ yn enghraifft o hyn. Pecyn croeso wedi’i anelu’n benodol at fewnfudwyr ydyw, gyda gwefan ddwyieithog yn gysylltiedig ag ef, sef www.symudigymru.com / www.movingtowales.com. Yn y pecyn disgrifir lle’r iaith Gymraeg yn y gymdeithas Gymreig fel a ganlyn:

Today public organisations, national and international companies, small businesses and voluntary organisations provide more and more of their services through the medium of Welsh and do so as a mark of good customer service [myfi biau’r pwyslais]. (ByIG, d.d.: 3)

Mewn rhan arall o’r un ddogfen disgrifir goblygiadau statudol Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn yr un ffordd, hynny yw mewn perthynas â’r cwsmer:

The Welsh Language Act 1993 places a duty on the public sector to treat Welsh and English on an equal basis when providing services to the public in Wales. The local authorities and many other employers now call for a bilingual workforce. The ability to work bilingually is a valuable additional skill and viewed as a sign of good customer service [myfi biau’r pwyslais]. (ByIG, d.d.: 5)

Yn ei strategaeth mae ByIG wedi adnabod (3.4) nifer o grwpiau targed o fewn y gynulleidfa hon o gwsmeriaid ieithyddol. Y grwpiau pwysicaf yw’r grŵp 18–35 oed, gan gynnwys defnyddwyr y Gymraeg a’r sawl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg, a’r sector economaidd, preifat. Mae ByIG yn hawlio gwerth canfyddiedig y Gymraeg fel cyfrwng o fantais sosio-economaidd fel arf marchnata ar gyfer y ddau grŵp targed yma (e.e. Adran 7). Mae ByIG yn ystyried cyrraedd siaradwyr Saesneg a dysgwyr yr iaith Gymraeg fel amcan pwysig iawn. Mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol yng Nghymru ac felly mae Williams (2004) yn gywir wrth iddo adnabod agweddau’r mwyafrif Saesneg eu hiaith tuag at y Gymraeg fel mater cwbl allweddol mewn perthynas â’r gwaith o ddatblygu math cadarn o ddwyieithrwydd. Mae Williams (2004) hefyd yn adnabod y maes hwn fel un lle mae’r bwlch rhwng rhethreg a gweithred yn adroddiad Iaith Pawb yn eithriadol o amlwg.

Mae strategaeth farchnata ByIG yn adnabod ei bod yn rheidrwydd i ymdrin â’r gynulleidfa Saesneg trwy gyfeirio at ddwy ymgyrch Saesneg eu hiaith (Adran 16.1). Anelwyd yr ymgyrch Workplaylive at siaradwyr Saesneg a dysgwyr yr iaith Gymraeg yn benodol a hynny er mwyn ‘raise interest in the language and make them aware of the benefits of using Welsh’ (WLB, 2004b). Seiliwyd yr ymgyrch, a oedd yn cynnwys hysbysebion ar y sianel deledu cyfrwng Saesneg ITV1 Wales ac ar drafnidiaeth gyhoeddus a gwefan arbennig (www.workplaylive.org), ar ganlyniadau arolwg marchnad a gomisiynwyd gan FyIG. Ar yr un pryd cynhaliwyd wythnos thematig ‘Dysgu Cymraeg – Learn Welsh’ gan y sianel deledu cyfrwng Cymraeg, Sianel Pedwar Cymru (S4C) gan gyd-fynd ag ymgyrch traws-farchnata rhwng ByIG ac S4C trwy raglen gylchgrawn yn seiliedig ar y profiad o ddysgu Cymraeg, sef Cariad@iaith. Mae gwefan yr ymgyrch neilltuol honno’n arloesol yn yr ystyr nad yw’n fwriadol, yn ei diwyg, yn gysylltiedig â ByIG. Hynny yw nid yw ‘brand’ ByIG yn amlwg ar y deunydd ac felly nid yw’r cwsmer o reidrwydd yn cysylltu ByIG â’r ymgyrch. Mae’r pellter hwn yn glir mewn ymgyrchoedd eraill hefyd, yn neilltuol y rheiny sydd wedi’u hanelu at yr ifainc, fel yr ymgyrchoedd yn nodi Dydd Gŵyl Dewi a Dydd Gŵyl Santes Dwynwen – gŵyl y cariadon yng Nghymru – a hynny trwy anfon e-gerdyn o’r wefan www.swsus.org neu’r ymgyrch I’m a Welsh Virgin, cyfeiriad at y profiad ieithyddol o ymdrin â’r Gymraeg am y tro cyntaf. Bwriad y gwaith hwn o gysylltu’r Gymraeg â ‘brandiau’ eraill megis grwpiau cerddoriaeth bop, chwaraeon, neu unigolion enwog yw rhoddi i’r iaith rhyw ymdeimlad o fod yn cool (Adrannau 9 & 10) wrth ymbellhau oddi wrth ddelweddau sy’n gysylltiedig ag awdurdod arferol awdurdodau statudol.

Y Cwsmer a’r Dinesydd

Gwelir yr unig gyfeiriad at hawliau ieithyddol yn strategaeth farchnata ByIG yn yr atodiad i’r strategaeth, dan yr adran Gwerthoedd y Bwrdd. Datgenir yno: ‘Bydd y Bwrdd bob amser yn parchu hawliau a safbwyntiau siaradwyr ieithoedd heblaw am y Gymraeg’. Mae hyn yn codi nifer o faterion pwysig sy’n ymwneud â’r cysylltiadau cymhleth rhwng yr iaith Gymraeg a syniadau ynghylch y genedl, y wladwriaeth, a dinasyddiaeth yn y cyd-destun Cymreig. A chwaraeir rôl yn y cyd-destun hwn gan gynllunio delwedd y Gymraeg trwy farchnata. Hynny yw, mae marchnata yn ymarfer ideolegol ac o ganlyniad mae gan weithgaredd farchnata gyfraniad neilltuol i’w wneud at ymdriniaeth iaith yn y gymdeithas.

Mae’r modd y lleolir hawliau ieithyddol yn strategaeth farchnata ByIG yn cadarnhau pwynt cyffredinol a godwyd gan Williams mewn perthynas â maes polisi iaith Gymraeg ehangach. Noda yn ei ddadansoddiad o adroddiad Iaith Pawb, ‘the absence of a language rights approach’ (Williams, 2004: 1). Ymddengys i’r gorolwg cryno hwn ar ymagwedd ByIG at farchnata gadarnhau honiad a wnaed gan sylwebwyr eraill (e.e. Williams a Morris, 2000) fod ByIG wedi mabwysiadu ymdriniaeth neo-ryddfrydol. Hefyd, cofnoda Williams fod Iaith Pawb yn ‘replete with neo-liberal assumptions’ (2004: 6) a bod ByIG wedi defnyddio dulliau marchnata yn hytrach nag ymagwedd ddeddfwriaethol mewn perthynas â pholisi ynghylch y sector preifat wrth gyflwyno tystiolaeth fel rhan o adolygiad polisi iaith Gymraeg LlCCC (Williams, 2004: 9). O bosibl, mae absenoldeb hawliau ieithyddol ar ei amlycaf ym maes datblygiad economaidd, a’r sector preifat yn neilltuol. Daw Williams i’r casgliad canlynol:

The Welsh Language Board has adopted a position which is antithetical to more legislation, preferring that additional monies be expended on marketing and supporting Welsh within the private sector. Specific initiatives would include a sector-by-sector promotional campaign to increase the use of Welsh in, for example, retailing, banking and insurance, sport and leisure. Detractors would argue that this represents a thin patina of bilingualism and does not come close to honouring the presumed rights of Welsh-speaking workers or customers at the heart of the Welsh economy. (Williams, 2004: 24)

Mae ystod eang o aelodau’r gymdeithas Gymreig yn gyfrifol am yr ymdriniaeth o’r iaith Gymraeg, yn ogystal â rhai sydd ag ymagweddau gwahanol iawn i ymagwedd ByIG a LlCCC tuag at yr iaith. Mae rhai siaradwyr Cymraeg o fewn y mudiad iaith Gymraeg am symud yr ymdriniaeth i gyfeiriad ôl-drefedigaethol ac adfywiad yr hunaniaeth genedlaethol Gymreig yn y Gymru wedi’r datganoli (e.e. Dafis, 2004). Sylwa Williams fod y prif grwpiau o fewn y mudiad iaith Gymraeg, megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Chymuned, yn rhoi llais i ‘a deep-seated resentment that Welsh speakers are devoid of fundamental rights, given that language rights in Wales pertain to institutional services rather than to absolute rights as individual citizens’ (Williams, 2004: 12). Yn absenoldeb yr hawliau fe wêl y grwpiau hyn barhad y gorffennol trefedigaethol. Nodweddir eu hymdriniaeth hwythau yn rhannol gan barhad yr ymwybyddiaeth o fygythiad y meddwl trefedigaethol i’r iaith Gymraeg (e.e. Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 2004 a Chymuned, 2005). Yn ôl Phillips, mae’r syniad o Gymru fel endid trefedigaethol wedi mwynhau cryn sylw ymhlith siaradwyr Cymraeg, er enghraifft:

The idea that Wales has been colonized has been a central theme in Welsh-language politics for many years … The semantics of the ‘language struggle’ discourse has been particularly loaded with references to colonisation, from the description of Whitehall policy as ‘colonial policy’, to the ironic labelling of the Secretary of State for Wales as the ‘governor general’ … To many Welsh speakers in particular, therefore, the terms ‘post-devolution Wales’ and ‘postcolonial Wales’ are synonymous. (Phillips, 2005: 101 & 103)

Nid yw daliadau neo-ryddfrydol ac ôl-drefedigaethol yn bartneriaid ideolegol naturiol ac, yn wir, mae gan y berthynas rhwng ByIG, ar y naill law, a mudiadau megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Chymuned, ar y llaw arall, ei thensiynau, er bod cadeirydd presennol a sawl un o gyn-gadeiryddion ByIG wedi bod yn aelodau blaenllaw iawn o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Os caiff y ddeialog sydd rhwng y gwahanol fathau hyn o ymdriniaethau eu mewnoli i FyIG, yna mae hefyd ar fin ei ymsefydliadoli ymhellach wrth i weinyddiaeth Lafur LlCCC benderfynu ym mis Hydref 2004 y dylai ymdoddi ByIG ym mheirianwaith y Cynulliad yn y dyfodol agos. Fodd bynnag, fe ystyria LlCCC mai un o swyddogaethau’r llywodraeth yw ByIG. Er enghraifft, yn adroddiad Iaith Pawb adwaenir ByIG fel asiantaeth LlCCC ar gyfer hyrwyddo a marchnata’r iaith Gymraeg. Cadarnheir hyn yn y strategaeth farchnata a fabwysiadwyd gan FyIG ar gyfer 2004–6 ac mae ByIG yn nodi: ‘Mae Iaith Pawb yn sôn bod Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio’n galed, trwy gyfrwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg, i farchnata a hyrwyddo’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd Cymru.’ Wedi dweud hynny, mae pryderon ByIG ynghylch yr ymdoddi hwn wedi’u mynegi’n gyhoeddus. Dadleuwyd bod manteision mewn gweithredu hyd braich oddi wrth y llywodraeth ac yn neilltuol wrth geisio cynnal consensws gwleidyddol ar yr iaith Gymraeg (Huws, 2004).

Mae cyd-destun ehangach eto yn perthyn i’r bwriad o integreiddio ByIG i Lywodraeth y Cynulliad. Uchelgais cynnar iawn y weinyddiaeth gyntaf yn y Cynulliad (clymblaid Llafur-Rhyddfrydol) oedd terfynu bywyd sawl cwango – cynnyrch y polisïau neo-ryddfrydol a ddilynwyd gan y gwahanol lywodraethau Ceidwadol yng Nghymru yn ystod y 1980au a’r 1990au. Mae gan y diwygiad cyfyngedig hwn ym maes llywodraethiant yng Nghymru, yn ôl Williams, oblygiadau neilltuol i bolisi iaith. Ac yn hyn o beth, mae gan adroddiad Iaith Pawb y potensial o fod yn bwynt allweddol wrth newid cyfeiriad ac athroniaeth polisi iaith Gymraeg a’r berthynas rhwng yr iaith a’r wladwriaeth yng Nghymru; er enghraifft:

It is important to recall that Iaith Pawb is a strategic statement of policy; it is not a detailed language-planning document. I have treated it as a statement of doctrine which derives implicitly from a new form of governance related to the communitarian social state. This approach accepts the irreversibility of the neo-liberal reforms of the 1980s, but wishes to inject into them some elements of social solidarity and community. The State is modeled in a more positive way than in neo-liberalism, but the emphasis in now on partnership – between central and local and between public and private – as well as on subsidiarity. This partnership arrangement is best seen in terms of language and governance in the National Assembly for Wales’s conception of the triangular relationship between the Welsh Language Board, its various sponsored partners, such as the National Eisteddfod, the Urdd, the Mentrau Iaith and the general public. (Williams, 2004: 6)

Ceir gwrthgyferbyniad arwyddocaol o ran termau rhwng ByIG, sy’n disgrifio y defnyddwyr allweddol fel ‘cwsmeriaid’, a LlCCC, sy’n cyfeirio at ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fel ‘dinasyddion’. Er enghraifft, mewn darlith gyhoeddus a draddodwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, mynegodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog LlCCC, ei awydd i weld y berthynas rhwng darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a’r cyhoedd yn nhermau ‘co-operation’ yn hytrach nag edrych ar ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus fel ‘consumers’ (Morgan, 2004). Mae’r tensiwn sydd ar waith yma yn perthyn yn uniongyrchol i faes hawliau ieithyddol a llywodraethiant, yn ôl Loughlin a Williams, a hynny mewn ffordd neilltuol, sef:

Considerations of post-sovereign interaction in the Europeanization of public affairs render formal language planning increasingly difficult. This is because the post-Enlightment notions of inclusive citizenship are breaking down in the face of market segmentation and apparent consumer empowerment. This leads to a basic tension between commonality and fragmentation, between the basic needs of state socialization, including communicative competence in state-designated languages, and the reality of individual choices and the community-orientation of many interest groups. (Loughlin a Williams, ar y gweill: 22)i

Diweddglo

Mae cynulleidfa’r iaith Gymraeg, o safbwynt marchnata, yn gorff rhanedig. Adlewyrchir hyn yn ymdriniaeth amrywiol aelodau’r gymdeithas wrth ymwneud â materion ieithyddol ar wahanol lefelau. Mae strategaeth farchnata ByIG yn cydnabod peth o’r amrywiaeth ond y mae bylchau. Hefyd, mae’r consensws gwleidyddol, sydd wedi bod dan bwysau ers datganoli, yn debygol o gael ei erydu ymhellach wrth i’r broses wleidyddol yng Nghymru barhau i esblygu a chael ei diffinio mewn perthynas â materion neilltuol Cymreig, gan gynnwys yr iaith. Mae’r gwaith o gynllunio ieithyddol yn debygol o ddod yn fwyfwy anodd a gwleidyddol wrth i ystyr ac arwyddocâd y gwahanol ymdrechion i godi statws yr iaith Gymraeg adleisio mewn gwahanol ffyrdd trwy’r gynulleidfa honno. A hanfod y tensiynau fydd ynghlwm wrth y broses honno yw’r union werthoedd sy’n diffinio’r iaith Gymraeg ar gyfer y gynulleidfa, sef y wladwriaeth a’r genedl Gymreig.

Gohebiaeth

Dylid anfon unrhyw ohebiaeth at: Dr Diarmait Mac Giolla Chriost, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, Cymru, y DU, CF10 3EU. e-bost: macgiollachriostd@caerdydd.ac.uk

Llyfryddiaeth

 

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2005), Dyfodol y Gymraeg: Cynllun strategol 2005 (Caerdydd, ByIG)

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2004a), Strategaeth farchnata 2004/5-2005/6 (Caerdydd, ByIG)

Bwrdd yr Iaith Gymraeg, (2004b), www.bwrdd-yr-iaith.org.uk,‘Work Play Live …Use Welsh’ (Caerdydd, ByIG, 6 Medi 2004)

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1996), Strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg (Caerdydd, ByIG)

Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Pecyn Croeso [Welcome Pack] Symud i Gymru [Moving to Wales] (Caerdydd, ByIG, d.d.)

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (2004), www.cymdeithas.com, neges heb deitl wedi’i hanfon gan Dewi Jones, 19 Mai 2004. Dyddiad yr aed at y wefan: 22 Mehefin 2005

Cymuned (2005), www.cymuned.org, ‘Mewnfudo Ia, Gwladychu Na!’, neges wedi’i hanfon gan Aran, 16 Chwefror 2005. Dyddiad aed at y wefan: 22 Mehefin 2005

Dafis, C., Migration, identity and development, Agenda 2004, 4–7 (2004)

Huws, M., Diwygio’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, llythyr oddi wrth Meri Huws, Cadeirydd, ByIG, at Rhodri Morgan, Prif Weinidog, LlCCC (17 Medi 2004)

Loughlin, J. a Williams, C.H.W., (ar y gweill), ‘Language and governance: the intellectual inheritance’, yn Williams C.H., (gol), Language and governance (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru)

Morgan, Rh., Public services: looking to the future for Wales. BBC Wales Regeneration Lecture (Prifysgol Caerdydd, 7 Hydref 2004)

Phillips, D., (2005), ‘A new beginning or the beginning of the end? The Welsh language in a postcolonial Wales’, yn J. Aaron & C. Williams (goln), Postcolonial Wales, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, tt.100–113.

Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru (LlCCC), Iaith Pawb. Cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer Cymru ddwyieithog. A national action plan for a bilingual Wales (Caerdydd, LlCCC, 2003)

Williams, C.H.W., ‘Iaith Pawb: the doctrine of plenary inclusion’, Contemporary Wales 17, (2004),1–27

Williams, G. a Morris, D., Language Planning and Language Use: Welsh in a Global Age (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)

 

Sylwadau

Dim sylwadau wedi'u postio

 

islwytho'r erthygl

 

___________________

Manylion Bywgraffyddol

_________________

rhannu gyda ffrindiau

Designed & Developed by WiSS Limited